Y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach: Troseddau Manwerthu
Dydd Mercher 21 Chwefror, 12:30 – 13:30 Microsoft Teams (ar-lein)
COFNODION
YN BRESENNOL:
Enw |
Sefydliad |
Cofnodion |
Edward Woodall |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
EW |
Daniel Askew |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
DA |
Willem Van De Ven |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
WV |
Vikki Howells |
AS dros Gwm Cynon |
VH |
Robin Lewis |
Aelod o staff cymorth Vikki Howells AS |
RL |
Vince Malone |
Tenby Stores – siop manwerthu |
VM |
Ioan Bellin |
Aelod o staff cymorth Delyth Jewell AS |
IB |
Jenny Rathbone |
AS dros Ganol Caerdydd |
JR |
Gwen Patterson |
Ffederasiwn y Manwerthwyr Annibynnol (NFRN) |
GP |
Dennis Clarke |
Cynghorydd dros ganol y Barri |
DC |
Sam Whiteside |
Amherthnasol |
SW |
Nicky Ryan |
Staff cymorth Aelod o’r Senedd |
NR |
Peter Robinson |
Robinson Retail |
PR |
Sue Jude |
Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) |
SJ |
Tom Perry |
Aelod o staff cymorth Tom Giffard AS |
TP |
Kiera Marshall |
Staff cymorth Aelod o’r Senedd |
KM |
Laura McCormack |
Cymdeithas y Llyfrwerthwyr |
LM |
John Parkinson |
Amherthnasol |
JP |
Alun Michael |
Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru |
AM |
Russell George |
AS dros Sir Drefaldwyn |
RG |
1. Ymddiheuriadau
Peredur Owen Griffiths AS
Andrew Goodacre (Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain, neu BIRA)
2. Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd VH aelodau o'r Cydffederasiwn Manwerthwyr Annibynnol ac Aelodau o’r Senedd i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, gan amlinellu’r agenda ar gyfer y sesiwn.
3. Canfyddiadau newydd ynghylch troseddau manwerthu, a lansio’r ymgyrch Stopio Dwyn o Siopau (Stop Shop Theft)
Tynnodd EW sylw at ganlyniadau adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar drosedd, a gyhoeddwyd yn 2023, sy’n ymdrin â'r effaith y mae trosedd yn ei chael ar siopau cyfleustra, gan gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â throseddau, yr effaith ar gydweithwyr manwerthu a pherchnogion busnes, a'r duedd gynyddol o droseddau manwerthu.
Yn ogystal, nododd EW fod yr adroddiad yn sôn am yr ymgysylltu sy’n digwydd rhwng yr heddlu a busnesau mewn perthynas â throseddau, ac am sut mae busnesau yn buddsoddi er mwyn atal troseddau manwerthu.
Amlinellodd EW y cynllun gweithredu cenedlaethol ar droseddau manwerthu, a'r meysydd allweddol y bydd yn canolbwyntio arnynt.
Soniodd EW am y ffactor gwaethygol statudol, a sut y gall helpu busnesau i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu cosbi mewn modd cymesur.
Trafododd EW yr ymgyrch Stopio Dwyn o Siopau (Stop Shop Theft), a sut mae'n cael ei defnyddio i annog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i ymrwymo i weithredu ar droseddau manwerthu yn eu cymunedau.
4. Persbectif Manwerthwyr ar Droseddau Manwerthu
Soniodd VM am ei brofiad o ddioddef troseddau manwerthu yn ei siop, gan gynnwys y mathau o droseddwyr sy'n cyflawni'r troseddau hyn, amser ymateb yr heddlu, a sut mae’n hyfforddi ei gydweithwyr yn y siop er mwyn ceisio sicrhau eu diogelwch.
Dywedodd VM fod angen dull cydunol ac addysgedig o ymdrin â throseddau manwerthu, a bod angen cymryd y mater hwn o ddifri.
5. Sut yr ymdrinnir â throseddau manwerthu yn Ne Cymru
Soniodd AM am y cynnydd a welir mewn troseddau manwerthu mewn cymunedau lleol a difrifoldeb y mater.
Rhoddodd AM amlinelliad o'r darlun cenedlaethol ynghylch troseddau manwerthu, a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â’r broblem.
Soniodd AM am y gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â throseddau manwerthu ar lefel leol. Dywedodd ei fod wedi ceisio cryfhau’r gwaith ymgysylltu a wneir â thimau plismona mewn cymdogaethau er mwyn mynd i'r afael â throseddau manwerthu, a’i fod wedi ceisio sicrhau arian ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â mannau problemus lle ceir ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Amlinellodd AM y newidiadau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael yn â throseddau manwerthu mewn modd mwy llwyddiannus. Roedd y rhain yn cynnwys gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, tynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar fusnesau, gweithio gyda’r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, a chydnabod ar y cyd bod dyletswydd i amddiffyn pobl mewn sefyllfaoedd bregus.
6. Sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa
Cydnabu AM y pryderon a godwyd gan PR, a thynnodd sylw at bwysigrwydd adrodd am droseddau manwerthu, yr angen i gofnodi tystiolaeth o droseddu, a sut mae data adrodd yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â materion lleol.
Dywedodd SW ei fod yn gwerthfawrogi adroddiad y Gymdeithas Siopau Cyfleustra ar drosedd o ran adlewyrchu profiadau ym maes manwerthu. Yna, rhoddodd drosolwg o'i brofiadau personol o droseddau manwerthu, a'r ffaith nad yw troseddwyr yn cael eu cosbi’n briodol.
Cytunodd AM fod angen cosbau cryfach i droseddwyr.
Gofynnodd DC i AM a oedd yn teimlo bod y canfyddiad bod y weithred o ddwyn o siopau wedi’i dad-droseddoli yn rheswm pwysig pam fo pobl yn troi at droseddu, a bod y troseddau hyn wedi cynyddu.
Dywedodd AM fod dad-droseddoli’r weithred o ddwyn o siopau yn broblem, a'i fod yn teimlo y bydd hyn yn newid drwy'r cynllun gweithredu cenedlaethol ar droseddau manwerthu a thrwy newidiadau i ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Gofynnodd IB a oedd trosedd yn cael ei dadleoli ledled Cymru.
Tynnodd EW sylw at yr angen i'r heddlu ac awdurdodau lleol feddwl am yr holl hierarchaethau mewn ardaloedd er mwyn sicrhau bod modd mynd i'r afael â throseddau manwerthu.
Sylwadau i gloi
Gwnaeth VH rai sylwadau wth gloi’r cyfarfod, a diolchodd i bawb am fod yn bresennol.